|
Rhif y Ddeiseb: P-06-1502 Teitl y ddeiseb: Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth Geiriad y ddeiseb: Mae'r cynigion diweddar ar gyfer treth twristiaeth yng Nghymru yn gynllun gwael ar gyfer cynhyrchu refeniw i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw. Mae hyn yn ddrwg i fusnesau ac yn groes i fwriad y cynigion gan y bydd unrhyw ardoll twristiaeth yn arwain at lai o dwristiaid yn dod i Gymru ar wyliau a llai o dreth yn cael ei chynhyrchu i'r llywodraeth. Llofnodwch y ddeiseb hon er mwyn dangos i'r Ysgrifennydd Cyllid anfodlonrwydd y cyhoedd â’r cynlluniau hyn a luniwyd yn fras. |
Yn y diweddariad i’w Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i‘[g]yflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth’. Roedd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021 hefyd yn cyfeirio atgyflwyno ardollau twristiaeth lleol.
Cyflwynodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (yr Ysgrifennydd Cabinet), y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)('y Bil') i'r Senedd ym mis Tachwedd 2024. Datganodd y canlynol:
Fel un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu, mae'r Bil yn gam tuag at sicrhau tegwch o ran ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol, sy'n cefnogi ein diwydiant twristiaeth llewyrchus. Mae'n paratoi'r ffordd i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar aros dros nos mewn llety ymwelwyr, os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Byddai’r Bil yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Byddai’r ardoll yn ffi fesul person, fesul noson, a fyddai’n cael ei chodi ar bawb sy'n talu i aros mewn llety dros nos.
Mae’r Bil yn nodi’r tair cyfradd ar gyfer yr ardoll:
§ y gyfradd is yw £0.75, ac mae’r gyfradd hon yn gymwys i arosiadau mewn hosteli a’r rhai sy’n aros mewn pebyll ar safleoedd gwersylla;
§ y gyfradd uwch yw £1.25, ac mae’r gyfradd hon yn gymwys i bob math arall o lety ymwelwyr – er enghraifft, gwestai, llety gwely a brecwast, ac ati;
§ y gyfradd o ddim yw £0, ac mae’r gyfradd hon yn gymwys i arosiadau dros nos sydd wedi’u darparu neu eu trefnu gan awdurdod tai lleol mewn llety ymwelwyr ar gyfer y rhai sy’n ddigartref.
Fodd bynnag, yn ystod y ddadl a gynhaliwyd yn y Senedd ar egwyddorion cyffredinol y Bil, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’n cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i gynyddu’r gyfradd is i £0.80, a’r gyfradd uwch i £1.30 y noson (gweler adran 3.4 am ragor o fanylion).
Ar ben hynny, mae’r Bil yn caniatáu i gyngor ychwanegu premiwm at gyfradd yr ardoll.
Mae’r Bil hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gofrestru, ni waeth a yw ardal yr awdurdod lleol y maent yn gweithredu ynddi wedi rhoi’r ardoll ar waith ai peidio, ac mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth o’r gofrestr.
Mae ein Crynodeb o'r Bil yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau’r Bil a’r amserlenni ar gyfer craffu arno.
Cafodd y Bil ei gyfeirio at y Pwyllgor Cyllid, a gyhoeddodd ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil ym mis Mawrth 2025. Ac eithrio Sam Rowlands AS, roedd mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Gwnaeth y Pwyllgor 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r adran hon yn nodi rhai o'r meysydd allweddol y tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw atynt.
Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad waith craffu ar y Bil hefyd, gan gyflwyno adroddiad arno.
Roedd un o ganfyddiadau allweddol y Pwyllgor yn ymwneud ag a fyddai’r refeniw a gesglir drwy’r ardoll yn creu ychwanegedd (arian ychwanegol) ar gyfer y sector twristiaeth yn lle disodli cyllid awdurdodau lleol sydd eisoes wedi’i ddyrannu i’r sector. Cyfeiriodd yr adroddiad at Gymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU (PASC UK), a ddywedodd:
Although the funds are intended for destination management and improvement, we believe they will likely replace existing spending in these areas, freeing up resources to be used for unrelated purposes.
I liniaru'r pryder hwn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau sy’n dymuno cyflwyno’r ardoll sefydlu Fforwm Ymwelwyr, yn debyg i’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer ardoll ymwelwyr yr Alban.
Byddai hyn yn galluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch y defnydd o enillion yr ardoll, a fyddai’n cefnogi ychwanegedd yr ardoll.
Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i brif gyngor gymhwyso premiwm at gyfradd yr ardoll. Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, mynegodd rhanddeiliaid bryder am lefel y wybodaeth sydd ar gael am y premiwm hwn, ond awgrymodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y gallai premiwm fod yn briodol o dan rai amgylchiadau, megis yn ystod 'digwyddiadau mawr'.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, cyn y ddadl Cyfnod 1, roi rhagor o fanylion ynghylch y broses o gyflwyno premiwm.
Canolbwyntiodd y Pwyllgor hefyd ar hyblygrwydd y broses o gymhwyso premiwm, gan argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad i ystyried dulliau amgen o godi premiymau yng nghyd-destun yr ardoll ymwelwyr, a hynny fel rhan o unrhyw asesiad o’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Mater allweddol arall y tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw ato oedd y diffyg esemptiadau ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed, teithiau addysgol a chyrff sydd â statws elusennol.
Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o ardollau ymwelwyr a welir mewn gwledydd Ewropeaidd yn esemptio plant a phobl ifanc, a chafwyd sylwadau gan dystion ynghylch y dull digydymdeimlad o gymhwyso treth i blant bach.
Fodd bynnag, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr effaith bosibl ar y swm cyffredinol a fyddai’n cael ei godi gan yr ardoll, gan ddweud:
I think that our figures show that if you took all of those under 16, of compulsory school age and below, out of the levy, the £33.3 million that our modelling suggests that you would collect goes down to £21.3 million.
Clywodd y Pwyllgor hefyd nad twristiaid na phobl ar wyliau yw’r dysgwyr sy'n cymryd rhan mewn teithiau ysgol preswyl a drefnir i gefnogi eu haddysg.
Teimlwyd y byddai cymhwyso'r ardoll i deithiau addysgol yn creu rhwystr ychwanegol i deithiau preswyl / addysgol, ac y byddai hyn yn amddifadu plant a phobl ifanc o'r profiad o fynd ar deithiau preswyl.
Ailadroddodd yr Ysgrifennydd Cabinet y pwynt am effaith erydu’r sylfaen ar faint o refeniw y byddai'r ardoll ymwelwyr yn ei godi.
Cafwyd galwadau hefyd gan Gymdeithas yr Hostelau Ieuenctid (YHA) a Chomisiynydd Plant Cymru parthed esemptio cyrff megis sefydliadau nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol rhag codi’r ardoll ymwelwyr.
Fodd bynnag, er i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud yr un ddadl ynghylch swm y refeniw a fyddai’n cael ei godi o'r ardoll, aeth ymlaen i ddweud y canlynol:
… charities—it's a catch-all term for a very, very diverse sector with different legal bases and so on. It can sound straightforward and it can become very complicated when you actually have to, in legal terms, define who you mean.”
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, cyn y ddadl Cyfnod 1, ddarparu crynodeb i’r Senedd o unrhyw waith dadansoddi a wnaed ynghylch esemptiadau posibl i bobl ifanc o dan 16 oed, teithiau addysgol a chyrff sydd â statws elusennol.
Cafwyd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar 28 Mawrth 2025. Derbyniodd y Llywodraeth 13 o argymhellion, gan dderbyn 4 arall mewn egwyddor.
Yn ystod y ddadl a gynhaliwyd yn y Senedd ar egwyddorion cyffredinol y Bil, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
Rwy'n falch fy mod wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor i ddarparu data i'r Senedd ar y mater hwn. Fodd bynnag, gallaf roi gwybod i'r Aelodau y prynhawn yma, ar ôl darllen adroddiad y pwyllgor ac ar ôl ystyried eto y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, fy mod wedi penderfynu mynd ymhellach na'r argymhelliad ei hun.
Yna, dywedodd:
Yng Nghyfnod 2, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i eithrio pobl dan 18 oed sy'n aros mewn llety â sgôr is o'r ardoll yn gyfan gwbl.
I wneud iawn am yr esemptiad hwn, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’r gwelliant hefyd yn “cynyddu'r ardoll ar y rhai y caiff ei chodi arnyn nhw o'r 75c a gynigiwyd yn wreiddiol i 80c, ac o £1.25 i £1.30 y noson ar gyfer y gyfradd uwch.”
Cadarnhaodd hefyd mai’r newidiadau i driniaeth plant oedd yr unig rai yr oedd yn bwriadu eu cyflwyno.
Cytunodd y Senedd ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 1 Ebrill 2025. Mae’r Bil yn destun trafodion Cyfnod 2 ar hyn o bryd.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |